Proffil Trydar Alun Davies AC
Naomi Williams o Positif Politics sy’n edrych ystyried defnydd gwleidyddion o Twitter.
Daw’r newyddion yr wythnos hon bod Senedd yr Alban wedi gwahardd Aelodau’r Senedd rhag trydar yn y Siambr.
Wrth gadarnhau’r gwaharddiad, dywedodd y Llywydd, Tricia Marwick, dylai Aelodau’r Senedd roi eu holl sylw i’r “gwaith difrifol” o gyflwyno deddfwriaeth newydd ac i ddwyn Llywodraeth yr Alban i gyfrif.
Cynhyrfwyd y dyfroedd gan y penderfyniad hwn ym Mae Caerdydd hefyd, yn enwedig ymysg y ddau draean o Aelodau Cynulliad sy’n defnyddio’r cyfrwng cymdeithasu, Twitter yn rheolaidd.
Byddai unrhyw un sy’n dilyn Aelodau’r Cynulliad ar Twitter yn deall gwerth y cyfrwng, yn enwedig pan fydd eu sylwadau’n cynnig dimensiwn ychwanegol i Gyfarfodydd Llawn yn y Siambr.
Mae Twitter yn declyn amlbwrpas sydd nid yn unig yn caniatáu iddynt gyfeirio at ddolenni sy’n cynnwys eu cyfraniadau hwy i drafodaethau yn Siambr ond sydd hefyd yn caniatáu iddynt gael trafodaeth agored ar faterion penodol ac i fynegi eu barn – gan ofalu ei fod yn llai nag 140 ‘character’.
Crefft trydar
Mae ambell Aelod wedi troi’r cyfrwng yn gelfyddyd, gyda thrydarwyr brwd fel Peter Black a Bethan Jenkins yn nodedig am ambell i ffrwgwd ar-lein.
Mae’n well gan Aelodau eraill, megis Alun Davies, roi gwybod i ni beth mae’n ei gael i’w fwyta (ond rhown faddeuant iddo am ei fod yn Weinidog dros fwyd) ac mae ambell i Aelod na wnaf enwi yn bryderus i’n hysbysu eu bod yn cael cyfarfodydd, ond heb roi gwybod i’r darllenwyr gyda phwy…
Wrth gwrs, ceir ambell i drydar annoeth a chaiff ei ysgrifennu mewn eiliad fyrbwyll, ond mae hefyd modd gwneud sylw anffodus dros feicroffon fel y sylweddolodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler yr wythnos hon.
Oherwydd rhyfeddodau technoleg fodern, mae modd ei chlywed yn adrodd o dan ei gwynt, “Oh here we go now” fel y mae Mark Isherwood AC yn dechrau ei gyfraniad i’r drafodaeth ar record economaidd y Blaid Lafur.
Yn debyg iawn i hanes trydarau wedi iddynt gael eu rhannu, mae sylwadau yn y siambr hefyd yn aros ar y cofnod, ac yn aml iawn, byddent hefyd yn llwyddo i fywiogi wythnos sydd fel arall, ar bob cyfri, yn wythnos ddigon tawel.