Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi cyhoeddi rhwng £5m a £10m o gymorth i gymunedau sydd wedi’u heffeithio gan lifogydd a difrod yn sgil Storm Dennis.

Fe ddaw wrth i gyflenwad dŵr Sir Fynwy gael ei effeithio ar ôl i Storm Dennis daro’r gwaith trin dŵr yno.

Er mwyn ymateb i’r diffyg dŵr, mae Dŵr Cymru yn gofyn i bobol Sir Fynwy leihau eu defnydd o ddŵr ac mae ganddyn nhw stoc o boteli os yw’r ardal yn rhedeg allan.

Roedd yn rhaid i bobol ffoi o’u tai neithiwr (nos Lun, Chwefror 17), ac fe wnaeth lefelau dŵr gyrraedd 7.15 metr (23 troedfedd) erbyn bore dydd Mawrth (Chwefror 18).

Dyw staff Dŵr Cymru ddim wedi gallu cyrraedd y gwaith trin dŵr oherwydd y llifogydd.

Dywed y cwmni fod y gwaith trin dŵr wedi gorlifo a cholli pŵer.

“Er ein bod wedi rhoi mesurau yn eu lle, mae’r safle wedi gorlifo a does dim pŵer yno,” meddai llefarydd.

“Rydym yn gofyn i gwsmeriaid yn ardal Sir Fynwy i leihau eu defnydd o ddŵr yn y cyfamser.”