Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, yn galw ar Dominic Cummings, prif ymgynghorydd Boris Johnson, i roi tystiolaeth gerbron pwyllgor seneddol.

Ac mae galwadau ar i Boris Johnson ddiswyddo Andrew Sabisky, aelod arall o’i staff, yn sgil sylwadau tanllyd am erthylu a phobol groenddu yn y gorffennol.

Mae’n cyhuddo’r prif weinidog o ymddwyn mewn ffordd arlywyddol wrth ad-drefnu’r Cabinet yr wythnos ddiwethaf.

Disgrifiodd e Dominic Cummings fel y “pŵer tu ôl i’r orsedd” gan godi gofidion am y dylanwad sydd gan ymgynghorwyr sydd heb gael eu hethol dros bolisïau’r Llywodraeth.

Ymddiswyddodd y cyn-Ganghellor Sajid Javid yr wythnos ddiwethaf ar ôl iddo gael gwybod y byddai’n rhaid iddo ddiswyddo ei ymgynghorwyr ac uno â swyddfa 10 Downing Street.

Mae Ian Blackford wedi ysgrifennu at Gyngor Cyswllt San Steffan i’w annog i gymryd tystiolaeth gan Dominic Cummings.

Mae’r Cyngor yn cymryd tystiolaeth gan Brif Weinidogion yn aml.

“Mae’n iawn fod y Prif Weinidog yn cael ei gwestiynu gan y pwyllgor, ond hefyd y person sy’n gyfrifol – y pŵer tu ôl i’r orsedd – Dominic Cummings, sydd â chymaint o ddylanwad dros y llywodraeth, gyda gweinidogion ac ymgynghorwyr yn colli eu swyddi tra mae o’n parhau i chwarae gemau yn Rhif 10,” meddai wrth BBC Scotland.

Andrew Sabisky

Yn y cyfamser, mae sylwadau Andrew Sabisky yn y gorffennol am erthylu a phobol groenddu dan y lach unwaith eto, wrth i Boris Johnson wynebu pwysau i’w ddiswyddo.

Mae e wedi dweud yn y gorffennol fod beichiogrwydd damweiniol yn arwain at “is-ddosbarth cymdeithasol”, a bod arbrofi gyda math newydd o gyffur i drin problemau’r cof “yn werth un crwt yn marw unwaith y flwyddyn”.

Fe ddywedodd dro arall fod gan bobol groenddu IQ is na phobol â chroen gwyn yn yr Unol Daleithiau.

Ymhlith y rhai sy’n galw am ei ddiswyddo mae Jon Trickett, aelod o gabinet cysgodol Llafur ac arbenigwr geneteg sy’n dweud iddo gael ei “ddallu gan wyddoniaeth”.

Mae lle i gredu bod nifer o ymgynghorwyr eraill yn barod i gadw draw o gyfarfodydd lle mae Andrew Sabisky yn bresennol, ac maen nhw’n gwrthod ateb ei negeseuon e-byst.

Ac mae Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, wedi ymbellhau oddi wrth ei sylwadau gan ddweud wrth y BBC nad yw e na’r Llywodraeth yn cyd-fynd â’i safbwyntiau.