Mae prif swyddog meddygol Cymru eisiau i bawb feddwl am sut y gallan nhw wella eu hiechyd a’u lles yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Dywed y Dr Frank Atherton mai’r allwedd yw cael cefnogaeth, gan ffrindiau a theulu neu gan y rhaglenni niferus sydd wedi’u cynllunio i helpu

“Un o’r prif addunedau blwyddyn newydd yw stopio ysmygu, sy’n arferiad anodd iawn ei dorri,” meddai, “ond mae’n un o’r pethau gorau wnewch chi er lles eich iechyd.

“Rydan ni’n gwybod eich bod chi hyd at bedair gwaith yn fwy tebygol o lwyddo yn eich ymdrechion i stopio ysmygu gyda chefnogaeth am ddim gan y Gwasanaeth Iechyd nag ydach chi ar eich pen eich hun, felly cymerwch eich cam cyntaf tuag at 2020 iachach drwy gysylltu â Helpa Fi I Stopio, gwasanaeth am ddim. .

“Rydan ni’n gwybod bod gweithgarwch corfforol yn hynod fuddiol i’n hiechyd ni, o ran cyflawni a chynnal pwysau iach a chyfrannu at ein hapusrwydd a’n lles. Gall cynnydd cymharol fychan hyd yn oed mewn gweithgarwch corfforol wella ein hiechyd ac ansawdd ein bywyd, a does dim rhaid i chi fod yn ymarfer yn y gampfa nac yn rhedeg marathon, oni bai fod hynny’n bleserus ac yn gyraeddadwy i unigolion.

“Mae garddio, cerdded, cario siopa i gyd yn cyfrif, felly ceisiwch gynnwys mwy o weithgarwch yn eich bywyd bob dydd pan fo hynny’n bosib, a byddwch yn teimlo’r budd.”