Mae gweinyddiaeth amddiffyn Ffrainc wedi cyhoeddi ei bod wedi cynnal ei chyrch cyntaf gyda dron arfog yn Mali, gan ladd saith o “eithafwyr Islaaidd”

Mae Ffrainc bellach ymhlith grwp dethol o wleddydd sy’n defnyddio dronau i ymosod ac sy’n cynnwys yr Unol Daleithiau.

Fe ddaw’r ymosodiad dron fis union, bron, wedi i ddwy hofrennydd o Ffrainc fod mewn gwrthdrawiad yn Mali, ac i 13 o filwyr gael eu lladd

Yn ol datganiad gan y weinyddiaeth amddiffyn, fe ddigwyddodd yr ymosodiad dron ddydd Sadwrn (Rhagfyr 21) tra’r oedd yr arlywydd Emmanuel Macron yn ymweld a’r Arfordir Ifori, lle mae gan Ffrainc safle milwrol.

Roedd yr arlywydd eisoes wedi cyhoeddi fod Ffrainc wedi lladd 33 o eithafwyr y diwrnod hwnnw .