Cynghorydd Llafur o’r de yw arweinydd newydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae Andrew Morgan yn gynghorydd Llafur dros Orllewin Aberpennar ers 2004.

Bu’n weithiwr i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf cyn ei ethol.

Penodwyd yn aelod o’r cabinet yn 2008 a daeth yn arweinydd y cyngor ym mis Mai 2014.

Mae wedi bod yn Lywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ers mis Tachwedd 2016 a bydd yn parhau yn ei rôl fel Llefarydd y Gymdeithas dros Drafnidiaeth yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Mi fydd Arweinydd blaenorol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Farwnes Judith Wilcox, yn dod yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi .

“Heriol iawn”

Wrth gamu i’r swydd arweinyddol newydd, dywedodd Andrew Morgan: “Anrhydedd enfawr i mi yw cael fy ethol yn Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Cymru.

“Mae’r ddegawd ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn i lywodraeth leol, ond mae cynghorau wedi dangos arweiniad ac wedi gweithio i sicrhau bod ein cymunedau lleol wedi cael eu gwasanaethu’n dda a bod gwasanaethau lleol hanfodol wedi cael eu cynnal.”