Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi annog y Prif Weinidog, Boris Johnson i warchod ffermwyr Prydain mewn trafodaethau masnach gyda’r Unol Daliaethau.

Dywed arweinydd y blaid, Jo Swinson fod yn rhaid i Boris Johnson ei gwneud hi’n glir y bydd y Deyrnas Unedig yn cadw eu safonau bwyd.

Aeth hi ymlaen i honni fod dogfennau o drafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Unol Daliaethau yn dangos fod swyddogion Americanaidd am i Brydain ganiatáu mwy o ddefnydd o gemegau wrth gynhyrchu bwyd. 

Byddai hyn yn golygu golchi cyw iâr efo chlorine a rhoi hormonau tyfiant mewn gwartheg, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywed: “Mae’n rhaid i Boris Johnson warantu na chaif ein ffermwyr nag ein safonau bwyd eu haberthu mewn cytundeb masnach gyda Donald Trump”.