Mae mynediad i ofal iechyd meddwl yn gwaethygu, yn ôl arolwg o gleifion Prydeinig gan y Comisiwn Safon Gofal.

Cafodd 12,551 eu holi ar gyfer yr arolwg rhwng mis Medi a Thachwedd y llynedd a dywed y Comisiwn Safon Gofal eu bod wedi darganfod “ambell” beth positif yn unig.

Dywed yr arolwg fod yno ostyngiad wedi bod ym mhrofiadau pobl o gael gofal, gyda dim ond 42% ohonyn nhw’n dweud eu bod “yn bendant” wedi gweld arbenigwr iechyd meddwl yn ddigon aml i’w anghenion.

Mae hyn un canran bwynt yn is na chanlyniadau’r flwyddyn gynt a pum canran pwynt yn is na 2014.