Mae Boris Johnson wedi bod yn cneifio dafad a gweini rholiau cig yn ystod ymweliad â Ffair Aeaf Llanelwedd.

Daw’r ymweliad wrth iddo amlinellu heddiw (dydd Llun, Tachwedd 25) gynlluniau ei blaid ar gyfer Cymru pe bai’r Ceidwadwyr mewn grym ar ôl yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Bydd yn addo creu Bargen Twf y Gororau er mwyn rhoi hwb economaidd i gymunedau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Mae’r Ceidwadwyr yn targedu sedd Brycheiniog a Maesyfed, ar ôl i Chris Davies golli ei sedd i Jane Dodds mewn isetholiad yn gynharach eleni.

“Ga i’ch temtio chi gyda rhôl cig oen?” oedd ei gwestiwn i ymwelwyr â stondin yn y ffair.

Fe aeth oddi yno i weld gwartheg, lle mae’n ymddangos iddo gorddi tarw oedd wedi cael ei dywys oddi yno.