Mae The Brexit Party wedi gohirio rali yng nghanol Llundain yn sgil gwylltineb at benderfyniad y blaid i beidio sefyll mewn 317 etholaeth.

Mae Nigel Farage wedi dweud wrth gefnogwyr yn Hartlepool ddydd Llun ei fod yn rhoi’r “wlad o flaen ei blaid” drwy beidio cael ymgeiswyr yn y 317 sedd enillodd y Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 2017.

Mae’r penderfyniad i gynnig cynghrair gadael yr Undeb Ewropeaidd i Boris Johnson wedi achosi anghydfod ymysg ymgeiswyr Plaid Brexit.

“Dw i wedi cael fy mradychu gan fy mhlaid fy hun,” meddai Alexandra Phillips oedd i fod yn sefyll dros y blaid yn y sedd Geidwadol, Southampton Itchen.

Mae Robert Wheal oedd yn ymgeisydd yn Arundel and South Downs wedi honni ei bod hi “ar ben i Nigel Farage fel gwleidydd”.

Bydd hyn oll yn hwb mawr i’r Ceidwadwyr gan fod y Blaid Brexit wedi cynrychioli bygythiad iddyn nhw mewn seddi lle mae’r galw am adael yr Undeb Ewropeaidd yn gryf.