Fe fydd y galw am ail refferendwm annibyniaeth yn “anorchfygol” os bydd yr SNP yn ennill mwyafrif o seddi’r Alban yn yr etholiad cyffredinol meddai Nicola Sturgeon.

Wrth siarad ar BBC Radio 4 dywed Prif Weinidog yr Alban ei bod hi’n bwriadu cynnal pleidlais arall ar annibyniaeth yn 2020.

Dywed fod y syniad fod gwleidyddion San Steffan yn gallu gwrthod rhoi ail refferendwm i bobol yr Alban yn “disgyn yn ddarnau”.

“Fy mwriad yw cynnal refferendwm flwyddyn nesaf,” meddai. “Os yw’r SNP yn ennill yr etholiad yma, dw i’n meddwl y bydd y galw yn anorchfygol.”