Mae Tanni Grey-Thompson, y Baralympwraig o Gymru, wedi derbyn gwobr cyfraniad oes.

Derbyniodd hi’r wobr gan Chris Hoy, y seiclwr Olympaidd, fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 25 oed.

Mae’r gwobrau’n dathlu cyflawniadau anghyffredin pobol gyffredin sydd wedi derbyn cefnogaeth gan gronfa’r Loteri, ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ddyfarnu gwobr cyfraniad oes.

Yn ystod ei gyrfa a barodd 16 o flynyddoedd, enillodd y bara-athletwraig o Gaerdydd lu o fedalau Paralympaidd, gan gynnwys 11 aur.

Torrodd hi record y byd am rasio mewn cadair olwyn 30 o weithiau, a daeth hi i’r brig ym marathon Llundain chwe gwaith.

Ar ôl ymddeol yn 2007, daeth hi’n sylwebydd ac yn hyfforddwraig i athletwyr a phara-athletwyr.

Y tu hwnt i chwaraeon

A hithau wedi graddio mewn gwleidyddiaeth, bu’n gweithio ym maes gweinyddu chwaraeon a gweinyddu cyhoeddus.

Daeth hi’n Farwnes Grey-Thompson yn 2010 ac mae ganddi sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi yn sgil hynny, lle mae hi’n llefarydd ar ran pobol sy’n wynebu rhwystrau ac anfantais yn eu bywydau beunyddiol.

“Dw i wrth fy modd ac mae’n anrhydedd cael fy nghyhoeddi fel enillydd cyntaf erioed Gwobr Cyfraniad Oes y Loteri Genedlaethol,” meddai yn dilyn ei llwyddiant.

“Mae arna i ddyled fawr i’r Loteri Genedlaethol am fy nghefnogi yn ystod fy ngyrfa fel athletwraig ac am fy helpu i wireddu fy mreuddwydion ym myd y campau ac ysbrydoli pobol eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon.”

Mae’n dweud bod y wobr “wedi helpu i chwyldroi para-chwaraeon drwyddi draw”.

Bydd y gwobrau’n cael eu darlledu gan y BBC ar Dachwedd 19.