Mae arweinydd Hong Kong Carrie Lam wedi dweud bod honiadau y gallai Hong Kong ddod yn wladwriaeth sy’n cael ei rheoli gan yr heddlu, yn “hollol anghyfrifol a di-sail”.

Roedd Carrie Lam yn siarad wrth i’w llywodraeth geisio delio â phrotestiadau sydd wedi bod yn mynd ymlaen am bum mis bellach.

Mae hi hefyd wedi amddiffyn heddluoedd Hong Kong sydd wedi ennyn casineb y protestwyr am eu tactegau ac am arestio oddeutu 26,000 o bobol.

Cefndir

Dechreuodd y protestiadau ym mis Mehefin oherwydd deddf estraddodi a fyddai wedi caniatáu i bobol gael eu hanfon i Tsieina i gael eu dedfrydu.

Ers hynny mae’r protestiadau wedi dod yn fwy gwrth-lywodraeth, gwrth-heddlu a gwrth-Tseina.

Mae protestiadau wedi sbarduno mwy a mwy o drais rhwng protestwyr a heddweision.