Mae Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas, wedi cael ei ryddhau o’i ddyletswyddau am gyfnod ar ôl iddo gael ei “daro’n wael”.

Mae golwg360 yn deall bod y cyn-Aelod Cynulliad wedi cael strôc fechan, ac mae llefarydd ar ran y Llyfrgell Genedlaethol wedi cadarnhau nad yw wedi gallu ymgymryd â’i waith ers pythefnos.

Ychwanegodd nad oes modd dweud “ar hyn o bryd” pryd fydd Rhodri Glyn Thomas yn dychwelyd i’w waith.

Yn y cyfamser, mae’r Is-Lywydd, Meri Huws, yn cadeirio cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ei le.

Mae Rhodri Glyn Thomas wedi bod yn Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol oddi ar 2016, pan gafodd ei benodi am gyfnod o bedair blynedd.

Bu’n Aelod Cynulliad tros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr rhwng 1999 a 2016, ac yn Weinidog tros Dreftadaeth rhwng 2007 a 2008 yn ystod y llywodraeth glymbleidiol rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru.