Mae Carmen Ria Smith, cyn-ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Senedd Ewrop, wedi ychwanegu ei henw i’r ras ar gyfer ymgeisyddiaeth Plaid Cymru yn Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae’n aelod o Blaid Cymru Ifanc ac yn gyn-Ddirprwy Lywydd NUS Cymru ac ar hyn o bryd, mae’n gynorthwyydd seneddol i Jill Evans yn Senedd Ewrop.

Mae’n ymuno ag Aled ap Dafydd a Vaughan Williams.

Wrth gyhoeddi ei bwriad, mae’n galw am “gychwyn newydd i Fôn”.

“Dros y dyddiau a’r wythnosau i ddod, edrychaf ymlaen at gyflwyno fy achos, a thrafod gydag ymgeiswyr eraill,” meddai mewn datganiad ar ei thudalen Twitter.

“Rwy’n barod i ddefnyddio fy mhrofiadau ac angerdd dros bobol Ynys Môn.”