Rhodri ab Owen, o Positif Politics sy’n bwrw golwg ar y byd gwleidyddol ar ran Golwg360 yn ei flog wythnosonol…

Gellid dadlau bod datganoli yn ddigwyddiad ac yn broses os edrychwch ar ddatblygiadau yr wythnos hon.

Bu sefydlu y Comisiwn Silk yn fwy o ddigwyddiad ym mhroses datganoli nag y tybiai nifer mae’n siŵr. Yn wir, roedd sefydlu’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru yn gam pwysig ar y daith – wrth iddo ymgiprys â thacluso’r setliad presennol sydd gennym.

Byddai’n annheg serch hynny i weld gwaith y Comisiwn yn unig fel tacluswr y setliad, gan fod ganddo gylch gwaith eang a fe fyddai’n gweithio mewn dwy ran.

Y Rhan Gyntaf, a fyddai’n gweithredu am flwyddyn, bydd y Comisiwn yn edrych ar yr achos dros ddatganoli pwerau cyllidol i’r Cynulliad Cenedlaethol a byddant yn argymell pecyn o bwerau cyllidol i’r Cynulliad er mwyn gwella eu hatebolrwydd.

Yr Ail Ran o waith y Comisiwn fydd archwilio pwerau presennol y Cynulliad ac argymell addasiadau er mwyn gwella’r setliad presennol.

Gall y Rhan Gyntaf arwain at ddatganoli treth incwm neu’r dreth gorfforaeth ac fe all yr Ail Rhan argymell datganoli o bosib darlledu neu’r heddlu i Gymru. Byddai unrhyw un o’r digwyddiadau hyn yn gam sylweddol ym mhroses datganoli Cymru.

Wrth gyhoeddi’r Comisiwn, roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yn pwysleisio, bron yn ailadroddus wrth ddweud, y byddai angen i’r Comisiwn Silk edrych yn ofalus ar fater o gyfrifoldeb cyllidol, ac aeth mor bell a dweud y byddai unrhyw symudiadau at Gymru’n cymryd unrhyw gyfrifoldebau cyllidol yn gam cwbwl addas os bydd hynny’n ‘gyson ag amcanion cyllidol y Deyrnas Unedig.’

Mae yna botensial mawr i’r Comisiwn sydd ag aelodaeth radical, sy’n cynnwys Nick Bourne, Eurfyl ap Gwilym a Rob Humphreys. Ar ben hynny, mae’r Comisiwn Silk yn fenter gan Lywodraeth y DU ac nid Llywodraeth Cymru, sy’n awgrymu y gallai hyn oll fod yn gam tyngedfennol yn y broses ddatganoli, sydd wedi hen adael digwyddiadau unigol yn y gorffennol.