WMae Cymdeithas y Cymod heddiw (dydd Llun, Awst 6) yn cofio’r diwrnod cafodd fom niwclear ei ollwng ar Hirosima yn Siapan.

Ar yr union ddiwrnod yma yn 1945 fe ollyngodd yr Unol Daleithiau’r bom ar y ddinas gan ladd hyd at 180,000 o bobol.

Cafodd bron I 63% o’i hadeiladau eu dinistrio a chafodd bron I 92% o adeiladau eu difrodi.

“Rydan ni yma i dynnu sylw ac i gofio’r peth ac i sicrhau ein bod ni gyd yn gweithredu er mwyn heddwch,” meddai Robat Idris o’r ymgyrch gwrth-niwclear, PAWB, wrth golwg360.

“Mae’n bwysig iawn bod pobol Cymru yn gadarn iawn o blaid heddwch ac yn ymladd yn erbyn arfau niwclear.”

Mae Robat Idris yn dweud eu bod nhw yn ceisio cael pobol i feddwl am waith niwclear yn Nhrawsfynydd, sydd yn gysylltiedig â’r diwydiant arfau niwclear.

“Yr atgof yn parhau”

Er mwyn tynnu sylw at y digwyddiad mae Cymdeithas y Cymod hefyd paentio cyrff o gwmpas y Maes.

“Rydan ni wedi paentio’r cyrff ‘ma ar y llawr oherwydd pan ollyngwyd y bomiau roedd cysgod cyrff y bobol gafodd eu lladd i’w weld ar y llawr,” meddai Robat Idris

“Mae hyn yn beth trawiadol iawn ac yn ofnadwy iawn o ystyried fod y bobol wedi diflannu i bob pwrpas.

“Yn Japan mae’r atgof yn parhau ac mae’n rhywbeth na ddylen ni fyth adael i ddigwydd eto.”

Mae’r Gymdeithas hefyd yn galw am esgidiau hen i roi cymorth i blant yn rhyfel Yemen, ac yn cynnig aelodaeth am ddim trwy’r wythnos.