Mae ymgyrchwyr ar gyfer annibyniaeth i Gymru wedi cyhoeddi mai Merthyr Tudful fydd lleoliad nesaf eu rali ym mis Medi.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn y rali a gynhaliwyd yng Nghaernarfon dros y penwythnos, gan ddenu 8,000 o bobol i orymdeithio ar hyd strydoedd y dref.

Yn ôl trefnwyr y digwyddiad, AUOB Cymru, maen nhw’n gobeithio cynnal digwyddiad tebyg ym Merthyr Tudful ar Fedi 7, gan orffen ar Sgwâr Penderyn – wedi ei enwi ar ôl yr arwr, Dic Penderyn.

Ymhlith y siaradwyr ar y dydd fydd yr ymgyrchydd a chyn-golwr Cymru, Neville Southall.