Plaid Brexit sydd wedi gwneud orau yn Etholiadau Ewrop yng Nghymru ond mae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi gwneud yn dda iawn.

Am y tro cynta’ ers bron ganrif, fe gollodd Llafur etholiad Cymreig, gan ddod yn drydydd y tu ôl i Brexit a Phlaid Cymru, a ddaeth yn ail, a dim ond trwch blewyn o flaen y Dem Rhydd.

Roedd y Ceidwadwyr yn ôl yn y pumed safle lai na 2,000 o bleidleisau o flaen y Blaid Werdd.

Fel gyda gweddill gwledydd Prydain, y pleidiau sydd â safbwynt clir ar Brexit sydd wedi ennill tir.

Dwy sedd i Brexit

Mae’r canlyniad yn golygu y bydd gan blaid Brexit ddwy o’r pedair sedd Ewropeaidd yng Nghymru, gydag un yr un i Blaid Cymru a Llafur. Fe ddaeth Llafur o fewn tua 7,000 o bleidleisiau i golli eu sedd.

O ran sgôr Gadael neu Aros, y pleidiau sy’n bendant o blaid Aros a ddaeth yn gynta’ – gydag ansicrwydd ynghylch union safbwynt pleidleiswyr y Blaid Lafur.

Yn ôl Alastair Campbell, cyn- gynghorydd y Prif Weinidog Llafur, Tony Blair, y tebygrwydd oedd y byddai llawr o bleidleiswyr Llafur Cymru wedi bod o blaid Aros neu ail refferendwm.

 

Y canlyniadau

Brexit                   271,404

Plaid Cymru         163,928

Llafur                    127,833

Dem Rhydd         113,885

Ceidwadwyr          54,587

Gwyrddion            52,660

UKIP                       27,566

Change UK            24,332

 

Yr aelodau

Nathan Gill a James Freeman Wells,  Brexit

Jill Evans, Plaid Cymru

Jacqui Jones, Llafur