Fydd ‘Mesur Ymadael’ Theresa May ddim yn cael ei gyhoeddi – nac yn destun dadl – tan ddechrau mis Mehefin, yn ôl Llywodraeth San Steffan.

Daw hyn wedi i Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Andrea Leadsom, gamu o’r neilltu ar nos Fercher (Mai 22) yn brotest i bolisi Brexit y Prif Weinidog.

 hithau wedi ymddiswyddo, bu’n rhaid i Mark Spencer, Chwip y Llywodraeth, rhoi diweddariad i Aelodau Seneddol ynglŷn â chynlluniau Brexit Theresa May.

“Byddwn yn rhoi diweddariad ynghylch y Bil Ymadael i’r siambr pan fyddwn yn dychwelyd o doriad y Sulgwyn,” meddai. Bydd y toriad hwnnw yn para o Fai 24 tan Fehefin 4.

Cytundeb arfaethedig yw’r Bil rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, sydd yn amlinellu sut bydd Brexit yn cael ei weithredu. Roedd disgwyl iddo gael ei gyhoeddi heddiw.

“Parlys Brexit”

Mae Arweinydd Cysgodol Tŷ’r Cyffredin, Valerie Vaz, wedi ymateb i’r datganiad trwy ddweud bod y Deyrnas Unedig yn wynebu “parlys Brexit”.

“Dyma addewid gwag arall gan y Prif Weinidog,” meddai, cyn ei chyhuddo o “flaenoriaethu parhad ei gyrfa wleidyddol dros y budd cenedlaethol”.