Cafodd ysgytlaeth ei daflu at arweinydd y Brexit Party, Nigel Farage, wrth iddo ymgyrchu yn Newcastle heddiw (dydd Llun, mai 20).
Nigel Farage yw’r ymgyrchydd diweddaraf i wynebu digwyddiad o’r fath fel rhan o brotestiadau yn erbyn gwleidyddion ac ideolegwyr asgell-dde.
O fewn y pythefnos diwethaf cafodd ysgytlaeth ei daflu at ymgeisydd etholiad Ewrop UKIP, Carl Benjamin, a chyn-sylfaenydd yr English Defence League (EDL), Tommy Robinson.
Cafodd Nigel Farage ei hebrwng o’r safle gan swyddogion diogelwch wrth i’r protestiwr gael ei symud i ffwrdd gan swyddog yr Heddlu.
Dywedodd y protestiwr Paul Crowther, 32, o Newcastle: “Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod o [Nigel Farage] yn y ddinas, a meddyliais mai dyma oedd fy unig gyfle,” meddai.
Ychwanegodd nad oedd yn edifar yr hyn a wnaeth.
Mewn fideo ar-lein mae Nigel Farage yn pwyntio bys at ei swyddogion diogelwch gan ofyn, “sut wnaethoch chi ddim gweld hynny? Gallech fod wedi gweld hynny o filltir i ffwrdd.”
Wrth drydar am y digwyddiad wedyn, dywedodd Nigel Farage: “Yn anffodus mae rhai o’r bobl sydd eisiau aros [yn rhan o’r UE] wedi cael eu radicaleiddio i’r fath raddau fel bod ymgyrchu arferol yn amhosib.”