Mae Wendy Walters wedi’i phenodi yn Brif Weithredwr newydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, i olynu Mark James.

Fe ddaeth y cyhoeddiad y prynhawn yma (dydd Mercher, Mai 1), ac mae nifer wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol yn croesaw penodiad Cymraes Gymraeg i’r brif swydd.

Fe gyhoeddodd Cyngor Sir Gâr ddiwedd Chwefror y byddai’r iaith Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer swydd Prif Weithredwr.

Mae Mark James yn bwriadu ymddeol yr haf hwn, wedi cyfnod o 17 mlynedd wrth y llyw yn Neuadd y Sir.

Merch o Sir Gâr

“Wedi fy ngeni a’m magu yn Sir Gâr, mae’n fraint ac yn anrhydedd i mi gael y cyfle hwn mor agos at fy nghartref, teulu a ffrindiau,” meddai Wendy Walters.

“Mae’n anrhydedd i mi fy mod wedi ennill hyder y Cyngor i arwain fel Prif Weithredwr newydd, ac rwy’n edrych ymlaen at yr heriau sydd o’n blaenau.

“Fel awdurdod lleol, nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn ofni bod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol, ac mae hynny’n rhywbeth a fydd yn fy ngyrru wrth i mi weithio gyda’n tîm ymroddedig o swyddogion ac aelodau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i’n cymunedau a mentrau adfywio cyffrous i greu dyfodol cryf i Sir Gâr.”

Bydd Wendy Walters yn gweithio gyda Mark James tan ei ymddeoliad ar Fehefin 9.

Mae’r penodiad wedi cael croeso gan yr Aelod Seneddol lleol, Jonathan Edwards, ymhlith eraill:

https://www.facebook.com/jonathan.edwards.165685/posts/10156215419800911

Wendy Walters yw Prif Weithredwr newydd Cyngor Sir Gâr. Person lleol hynod dalentog a phrofiadol, sy’n siarad Cymraeg yn…

Posted by Alun Lenny on Wednesday, 1 May 2019