Fe gfodd Theresa May “goffi cappuccino a chacan” yn ystod ei hymweliad â siop goffi yn nhref Dolgellau ddoe (ddydd Mawrth, Ebrill 16).

Mae prif weinidog Prydain ar ei gwyliau yn y gogledd ar hyn o bryd, wrth iddi ymlacio ar ôl cyfnod cythryblus yn sgil helynt Brexit dros y misoedd diwethaf.

Mae ei hoffter o fynd i gerdded yn yr ardal wedi dod yn fwyfwy amlwg ers iddi ddod yn brif weinidog bron i dair blynedd yn ôl.

A cherddodd hi i mewn i siop goffi T H Roberts yn y dref ddoe yn gwbwl annisgwyl, yn ôl y perchennog, Meg Jones.

‘Dim rhybudd’

Mae’n dweud na chawson nhw “ddim rhybudd” ei bod hi’n ymweld â nhw.

“Oedd yna dri [o swyddogion] efo hi, ond roeddan nhw’n reit discreet. Doeddach chdi ddim yn gwybod mai dyna be’ oeddan nhw,” meddai wrth golwg360.

“Oeddan nhw ar fwrdd arall, ac roedd bob dim yn reit ddistaw a discreet. Dynnais i un llun hefo hi i ryw deulu, ac roedd rhywun arall wedi siarad hefo hi…

“Mae hi’n hawddgar iawn ei hamser, chwarae teg,” meddai Meg Jones wedyn. “Gafodd hi lonydd da yma, sy’n reit braf iddi hi.”