Mae cannoedd o filoedd o bobol yn gorymdeithio trwy ganol Llundain, yn galw ar i lywodraeth Prydain roi’r gair olaf ar Brexit i bleidlais y bobol.

Mae gorymdaith ‘Put it to the People’ yn gwneud ei ffordd o Hyde Park Corner tuag at Balas Westminster, gyda baneri anferth glas Ewrop yn cael eu chwifio gan y dorf.

Mae bandiau a chwibanau yn gefndir i’r siantio, yn Saesneg, “People’s Vote”, gyda’r placardiau yn galw “Revoke Article 50” ac yn datgan “We love EU”. Mae nifer o bobol yn gwisgo sticeri melyn llachar sy’n dweud “Bollocks to Brexit”.

Ar un adeg, roedd y dorf yn ymestun o Hyde Park i lawr at Piccadilly.

Mae Maer Llundain. Sadiq Khan, wedi cyhoeddi fideo o’r orymdaith ar Twitter, gydag ef ei hun yng nghanol y bobol yn chwifio baner.