Mae Brexit yn “ffenomena hollol anghymreig” yn ôl un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru.

Wrth annerch cynhadledd y Blaid ym Mangor, mae Delyth Jewell wedi codi pryderon am yr ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd, gan alw Brexit yn “fwystfil pathetig”.

Mae’n cydnabod bod “angen i ni wrando ar yr anfodlonrwydd” ag arweiniodd at ganlyniad refferendwm 2016.

Ond yn ei hanfod, mae’n dweud bod angen i ni dderbyn nad yw Brexit yn cyd-fynd â Chymreictod.

“Ydych chi wedi sylwi nad oes yna air Cymraeg yn cael ei ddefnyddio am Brexit?,” meddai.

“I fi, dydy hynny ddim yn gyd-ddigwyddiad. Oherwydd, mae Brexit yn ffenomena hollol anghymreig. Mae’n rhesymegol, felly, nad oes gennym ni air am y gyflafan.

“Mae Brexit yn mynd yn erbyn pob tuedd sydd gennym ni fel Cymry – teyrngarwch, cyfeillgarwch, a’r gair anhygoel a greodd [y bardd] T.H. Parry-Williams, agosatrwydd.

“Rydym ni yng Nghymru yn bobl hael, gyfeillgar, agored.”

“Ymlaen tros Steffan”

Daeth Delyth Jewell yn Aelod Cynulliad fis diwethaf yn dilyn marwolaeth ei rhagflaenydd Steffan Lewis, o ganser y coluddyn.

Yn ystod ei hanerchiad cyntaf i gynhadledd y blaid yn aelod etholedig cyfeiriodd at cyn-ddeiliad ei sedd – rhanbarth Dwyrain De Cymru.

“Rydym yn falch yn ne Ddwyrain Cymru o’n hanes cyfoethog a gwrthryfelgar,” meddai. “Dw i’n dod o ardal Terfysg Merthyr. A dw i’n dod o ardal Steffan Lewis.

“Awn ymlaen tros Steffan a thros Gymru.”