Mae pobol ifanc o’r cyfandir wedi pwysleisio’r cysylltiad rhwng y Cymry a grwpiau lleiafrifol eraill wrth ymweld â Chynhadledd Plaid Cymru.

Eleni mae’r gynhadledd yn cael ei gynnal ym Mangor, ac fel rhan o’r gweithgarwch ymylol bydd cynrychiolwyr mudiadau annibyniaeth eraill yn cynnal digwyddiad.

Un o’r rheiny a fydd ynghlwm â hynny yw Adrian Sisternes – gŵr o Valencia sydd yn gweithio i Blaid Wleidyddol EFA (Cynghrair Rhydd Ewrop).

“Mae EFA yn cynnal digwyddiad yfory yn esbonio bod Cymru yn wlad Ewropeaidd, ac yn esbonio sut mae’r cydweithredu rhwng Plaid Cymru a’i chwaer bleidiau yn cael ei gryfhau,” meddai.

“Y brif neges yw, hyd yn oed os bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fydd Cymru ddim yn gadael Ewrop.”

Gwlad y Basg

Mae Adrin Fuentes yn dod o Wlad y Basg ac yn cynrychioli Ieuenctid Cynghrair Rhydd Ewrop (EFA Youth).

Bydd yntau hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad, ac mae’n cymharu’r sefyllfa yn ei famwlad â sefyllfa Cymru.

“Mae llawer o debygrwydd rhwng Gwlad y Basg a Chymru,” meddai. “Mae iaith leiafrifol yn cael ei siarad yn y ddau le. Dyw hi ddim yn hawdd deall y ddwy iaith.

“Rydym yn cael trafferthion o ran dysgu’r iaith. Dim ond traean o bobol Gwlad y Basg sy’n siarad yr iaith. Mae polisïau dwyieithog hefyd yn rhan fawr o’n brwydr wleidyddol.

“O ran y mudiad annibyniaeth, mae gennym lawer o genedlaetholwyr. Ond does dim gyda ni digon o gefnogaeth er mwyn ennill refferendwm annibyniaeth.”

Silesia

Mae Marta Bainka yn dod o Silesia ac mae hi’n Ddirprwy-Lywydd ar EFA. Ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o Silesia yn rhan o Wlad Pwyl a hoffai weld hynny’n newid.

Dyw’r sefyllfa fan yno, a’r sefyllfa yng Nghymru ddim yn rhy annhebyg yn ei barn hi.

“Mae gyda ni iaith a diwylliant ein hunain,” meddai. “Mae’r ardal yn rhannu ffiniau â’r Almaen, Gweriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl … Rydym yn gymysgedd o ddiwylliant yr ardaloedd yma.

“Mae yna lawer [o debygrwydd rhwng y Cymry â’r Silesiaid]. Rydym ni gyd yn delio â’r un problemau. Dyw Silesiaeg ddim yn iaith ysgrifenedig.

“Does dim gyda ni ffordd safonol o’i sgwennu. Felly rydym yn cael trafferth wrth rwystro ein hiaith a’n diwylliant [rhag dirywio].

Catalwnia

O Gatalwnia y daw, Marta Gonzalez, ac mae hi’n aelod Jovent Republica (Adain Chwith Weriniaethol Ifanc Catalwnia, neu JERC).

Mae’n ddiolchgar am gefnogaeth Cymru a’r Alban at sefyllfa wleidyddol Catalwnia.

“Rydym yn cymryd rhan yn y digwyddiad yfory,” meddai. “Rydym eisiau denu sylw rhyngwladol i fater y [gwleidyddion Catalanaidd] sydd wedi’u carcharu [gan Sbaen].

“Rydym yn teimlo’n agos iawn i Gymru a’r Alban … ac rydym yn derbyn llawer o gefnogaeth [oddi wrthyn nhw].”