Mi fydd chwaraewyr tîm rygbi Cymru yn cael eu croesawu i’r Senedd ym Mae Caerdydd heno (Dydd Llun, Mawrth 18) yn dilyn eu llwyddiant ysgubol yn cipio’r Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad dros y penwythnos.

Enillodd tîm Warren Gatland y bencampwriaeth ar ôl trechu Iwerddon 25-7 yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn (Mawrth 16).

Mi fydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a Dirprwy Lywydd y Cynulliad, Ann Jones yn croesawu’r chwaraewyr ac Undeb Rygbi Cymru i’r digwyddiad sy’n cael ei gynnal gan y Cynulliad a Llywodraeth Cymru.

Mae gwahoddiad i’r cyhoedd fynychu’r seremoni o 5 o’r gloch ymlaen i ymuno yn y dathlu cyn y seremoni fydd yn dechrau am 6yh.

 “Addas dathlu”

“Mae’n addas iawn ein bod yn dathlu’r gamp lawn hon gyda’n gilydd ac rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch yn gallu ymuno â ni yn y dathliadau nos Lun,” meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Yn ôl Dirprwy Lywydd y Cynulliad, Ann Jones, “braint” yw croesawu’r tîm yn ôl i’r Senedd.

“Mae Warren Gatland a’i garfan wedi codi ein cenedl unwaith eto ac mae’n addas ein bod yn diolch iddyn nhw am hynny,” meddai wedyn.

‘Hynod ddiolchgar’

“Mae’r garfan a’r tîm rheoli wedi ein gwneud yn genedl falch ac rydym yn hynod ddiolchgar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am nodi’n llwyddiant a galluogi’r cefnogwyr i ymgynnull i ddangos eu cefnogaeth,” meddai Martyn Phillips, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru.

“Mae’n anrhydedd mae carfan 2019 yn ei haeddu, ac yn un bydd yn meddwl y byd i’r chwaraewyr.

“Yn yr un modd, mae cannoedd o unigolion ar draws rygbi Cymru wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn a dylai pawb sy’n cymryd rhan yn y gêm ar bob lefel rannu perchnogaeth o’r cyflawniadau, a myfyrio gyda balchder ar ddiwrnod arbennig i’n gem genedlaethol.”

Neges gan y Tywysog Charles

Mae’r Tywysog Charles hefyd wedi anfon neges i dîm rygbi Cymru yn dilyn ei lwyddiant hefyd.

Dywed ei fod wedi ei wneud “yn hynod falch o Gymru,” gan longyfarch y tîm ar “berfformiad gwych”.

“Hoffwn anfon fy nymuniadau cynhesaf i bawb sy’n gysylltiedig â’r llwyddiant aruthrol hwn, a wnaeth i mi ymfalchïo’n fawr yng Nghymru. Cymru am byth!” meddai.