Rhodri ab Owen, o Positif Politics sy’n bwrw golwg ar y byd gwleidyddol ar ran Golwg360 yn ei flog wythnosonol…

Ymateb cymysg iawn a gafodd Rhaglen Llywodraethu newydd Llywodraeth Cymru’r wythnos hon.

Yn ôl rhai, dyma oedd digwyddiad gwleidyddol yr wythnos, ac roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn sicr yn awyddus i berswadio pobol o hynny.

Dyma “agenda uchelgeisiol i Gymru” yn ôl Carwyn Jones, oedd yn mynnu bod hyn dangos bod Llafur Cymru yn “troi’r maniffesto y cawsom ein hethol arno yn gamau gweithredu.” Ond mae eraill eto i’w hargyhoeddi.

Mae Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi beirniadu’r rhaglen oherwydd “absenoldeb ffigurau a thargedau,” gan fynd mor bell a dweud mai ‘jôc’ oedd y rhaglen llywodraethu – ac nad oedd hi werth pris y papur yr ysgrifennwyd hi arni.

Heb os, aelod Brycheiniog a Maesyfed oedd beirniad mwyaf cignoeth y rhaglen yn y Siambr yr wythnos hon. Ond serch hynny roedd gwleidyddion yr wrthbleidiau ym Mae Caerdydd i gyd i weld yn weddol gytûn â’i geiriau.

Diffyg targedau clir yn y ddogfen yw un o brif gwynion y gwrthbleidiau. Wedi’r cyfan, mae pob rhaglen lywodraethol yn y gorffennol wedi cynnwys targedau mesuradwy – ac mae hynny’n fodd i farnu llwyddiant.

Mae rhaglenni llywodraethol y gorffennol hefyd wedi cynnwys amserlen er mwyn cyflawni pob addewid – ac yn wir aeth y llywodraeth ddiwethaf rhwng Llafur a Phlaid Cymru, Llywodraeth Cymru’n Un, mor bell a chynhyrchu ‘Cynllun Cyflawni’, er mwyn manylu ar amcanion y llywodraeth ar bob ymrwymiad.

Mae Carwyn Jones wedi disgrifio’r ddogfen fel ‘roadmap i Gymru’, ond mae ambell un wedi awgrymu bod angen satnav arnoch i’w ddeall, gan ei fod yn cynnig cyfeiriad cyffredinol eich taith, ond heb fanylion manwl fel man dechrau’r daith… a’r ffordd i gyrraedd pen eich taith!

Ac felly dadl y gwrthbleidiau yw nad oes modd cymharu Cymru heddiw, a’r Gymru y mae’r llywodraeth yn ei addo drwy’r rhaglen lywodraethu. Bydd hyn hefyd yn gwneud gwaith y gwrthbleidiau yn anodd gan na fydd ganddyn nhw ffigyrau manwl i’w beirniadu wrth ddadlau yn y siambr, neu wrth gwyno wrth y wasg.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y beirniaid wedi camddeall bwriad y rhaglen, a’u bod nhw’n chwilio am wybodaeth na ddylid fod yno.

Ac yn ôl Llafur Cymru, eu rhaglen lywodraethol nhw yw hi yn y pendraw – felly fyny iddyn nhw sut i’w chyflwyno hi.

Yn sicr, mae’r rhaglen yn rhoi mwy o fanylder i ni na maniffesto’r Blaid Lafur – sef eu ‘roadmap’ gwleidyddol ers etholiadau mis Mai – ac mae wedi ychwanegu rhywfaint o waed at yr esgyrn hynny, hyd yn oed os nad yw’r cig yno eto!

Un peth nad oes modd ei wadu yw bod gan y Rhaglen Lywodraethu glawr deniadol. Ac yn ffodus, roedd o leia’ un aelod yn y Siambr oedd â’r craffter i werthfawrogi gwaith caled Llafur Cymru yn hynny o beth.

Ond gair o rybudd oedd gan aelod cynulliad Mynwy, Nick Ramsay – drwy obeithio’n fawr y byddai i’r blodyn haul ar glawr y rhaglen gwell bywyd na’r un a blannodd ef haf diwethaf!