Mae cyn-brif weinidog 82 oed yr Eidal, Silvio Berlusconi, wedi cadarnhau y bydd yn sefyll etholiad i fod yn aelod o Senedd Ewrop ym mis Mai eleni.

Hwn yw cam diweddaraf gyrfa droellog cyn arweinydd y blaid wleidyddol asgell-dde Forza Italia a fu’n brif weinidog ei wlad am bedair blynedd.

Mae ei yrfa wedi’i britho gan sgandalau personol a gwleidyddol, ynghyd â phroblemau iechyd.

Mae cyn-berchennog tîm pêl-droed AC Milan wedi datgan y bydd yn sefyll dan faner Forza Italia yn Sardini, gan ddweud ei fod eisiau “dod âfy llais i Ewrop, sydd angen newid, Ewrop sydd wedi colli ei ffordd o feddwl am y byd”.