Fe fydd y bleidlais Brexit yn Nhŷ’r Cyffredin yn ei gwneud hi’n fwy tebyg bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn anhrefn.

Dyna oedd ymateb cyntaf Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, i’r ffaith fod cytundeb Brexit Theresa May wedi cael ei  guro o fwyafrif anferth o 230.

“Rwyf yn nodi’r bleidlais gyda thristwch,” meddai, gan alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi gwybod cyn gynted â phosib beth maen nhw’n bwriadu ei wneud.

Ac yna, brawddeg fygythiol … “Mae amser bron ar ben”.

DUP am gefnogi Theresa May

Ymhlith yr ymateb cynnar arall, mae llefarydd ar ran y DUP yng ngogledd Iwerddon wedi dweud y byddan nhw’n cefnogi’r Prif Weinidog yn y bleidlais diffyg hyder – arnyn nhw y mae dyfodol y Llywodraeth yn dibynnu.

Ond fe ddywedodd Sammy Wilson eto na fydden nhw’n fodlon cefnogi cytundeb os oedd yn parhau i gynnwys darpariaeth i warchod rhag ffin yn ynys Iwerddon.

Fe ddaeth yn amlwg fod 118 o aelodau Ceidwadol wedi pleidleisio’n erbyn y cytundeb.