Y bleidlais heno fydd yr un bwysica’ y bydd pob aelod seneddol yn ei chymryd byth, meddai’r prif Weinidog, Theresa May, ar ddiwedd wyth niwrnod o drafod ei chytundeb Brexit.

Fe fydd y penderfyniad yn pennu tynged gwledydd Prydain am genedlaethau, meddai, wrth wneud un apêl ola’ am gefnogaeth.

Ond fe wrthododd ildio ar ddim o’r cytundeb gan ddweud bod pob dewis arall yn anymarferol neu’n annymunol.

Hyd yn oed dan bwysau i wanhau’r ‘backstop’ – y mesur rhag ofn i atal ffin ar draws Ynys Iwerddon – y cyfan ddywedodd hi oedd y byddai’n ystyried syniadau newydd … ond roedd hynny’n ddigon i atal un o’r gwelliannau.

  • Fe fyddai atal Brexit neu alw refferendwm arall yn golygu bod gwleidyddion yn osgoi eu cyfrifoldeb, meddai Theresa May, gan ddweud y byddai refferendwm yn arwain at ragor o rwygiadau.
  • Fyddai gadael heb gytundeb ddim yn adlewyrchu’r hyn yr oedd pobol wedi pleidleisio drosto, meddai, a fyddai yna ddim cyfnod trosglwyddo trefnus.
  • Wrth ateb galwad yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, am etholiad cyffredinol, fe ddywedodd na fyddai hynny’n ateb dim – fe fyddai’r un cwestiynau’r aros.

Yn y diwedd, meddai, ei chytundeb hi oedd yr un a fyddai’n parchu canlyniad refferendwm mis Mehefin 2016 ac yn gwneud orau i’r wlad.

Trafod eto’n bosib, meddai Jeremy Corbyn

Mae’r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, yn dweud bod eisiau ystyried mynd yn ôl i drafod eto ar ôl i gytundeb y Llywodraeth gael ei wrthod yn Nhŷ’r Cyffredin.

Ond dewis cynta’r blaid, meddai, yw etholiad cyffredinol – fe gyhuddodd y Llywodraeth o arwain llanast ac o weithredu er lles y Blaid Geidwadol yn hytrach na “lles y wlad”.

Roedd cytundeb Brexit Theresa May yn “wael i’r economi, yn wael i ddemocratiaeth ac yn fargen wael i’r wlad,” meddai.

Doedd y cytundeb ddim yn rhoi dylanwad i Lywodraeth Prydain o fewn cyrff Ewropeaidd a doedd y ddogfen am ddyfodol y berthynas ddim “yn eglur”.

“Mae’n fargen na allwn ni ddod allan ohoni heb gytundeb yr Undeb Ewropeaidd,” meddai. “Mae’n fargen beryglus.”