Corddi'r dyfroedd - Archesgob Cymru Barry Morgan
Rhodri ab Owen,o Positif Politics fydd yn bwrw golwg ar y byd gwleidyddol ar ran Golwg360 yn ei flog wythnosonol…

Yr wythnos ddiwethaf beirniadwyd rhaglen ddedfwriaethol Llywodraeth Cymru gan ddau o ffigurau amlycaf y genedl. Gofynodd cyn gadeirydd Confewnsiwn Cymru’n Gyfan, Syr Emyr Jones Parry braidd yn chwareus mewn cynhadledd tafliad carreg o siambr y Cynulliad, a chanfyddir ateb problemau ym meysydd addysg ac economi Cymru trwy ddeddfu ar greu rhwydwaith o lonydd seiclo ar draws y wlad? Cyhuddodd yn blwmp ac yn blaen, efallai dywedai rhai mewn iaith aniplomataidd i un o gyn lysgenhadon Prydain i’r Cenhedloedd Unedig, nad oedd Llywodraeth Cymru’n taro’r hoelen ar ei phen wrth ymgiprys â phrif broblemau’r genedl.

Cynhyrfu’r dyfroedd

Bu Archesgob Cymru, Barry Morgan yn cynhyrfu’r dyfroedd yr wythnos ddiwethaf hefyd trwy leisio barn yn erbyn cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddf a fyddai’n arwain at ragdybiaeth o ganiatâd ar gyfer rhoi organau. Yn ei Anerchiad Llywyddol i aelodau Corff Llywodraethu’r Eglwys yng Nghymru, ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, yn Llambed dywedodd y byddai deddf o’r fath yn troi “gwirfoddolwyr yn gonsgriptiaid” a throi gweithwyr meddygol Cymru yn “weision i’r wladwriaeth”. Mae ei sylwadau wedi cythruddo ymgyrchwyr brwd o’r cynllun megis Sefydliad Aren Cymru a Sefydliad y Galon.

‘O Barnett i Calman’

Serch y gofidiau hyn gan yr Archesgob a’r cyn ddiplomat, y broses o sut yr ariennir Cymru yn y dyfodol bu’r pwnc llosg gwirioneddol yr wythnos ddiwethaf ym Mae Caerdydd. Mewn cynhadledd wedi ei drefnu gan y Sefydliad Bevan ddydd Iau diwethaf, ‘O Barnett i Calman’, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt bod y modd yr ariennir Cymru yn hawlio man ganolog yn nhrafodaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Serch hynny, hefyd yn siarad yn yr un digwyddiad oedd Gerry Holtham, yr arbennigwr cyllid a rhybuddiodd mae gwir broblem addasu y fformiwla Barnett oedd y byddai’r Alban ar ei cholled yn syfyrdannol o hyn. O ganlyniad, gall Llywodraeth Cymru geisio negodi’r telerau gorau i Gymru hyd ddydd y farn ond, yn y pendraw, yr hyn a ddigwyddai yn yr Alban a fydd yn pennu tynged cyllidol y Cymry.

Dadleuai Gerry Holtham mai dyma fu’r achos ers gwawr datgnoli nôl ym 1999 a bod hyd yn oed crybwyll diwygio’r fformiwla Barnett i’r Aelod Seneddol Albanaidd a cheidwad y cledd am ran fwyaf o oes datganoli, Gordon Brown megis crybwyll Tony Blair yn ei gwmni. Ni anghytunodd Gweinidog Cyllid Cymru, Jane Hutt â’r gosodiad hyn rhyw lawer chwaith. Ond nawr mae angen iddi hi negodi gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Democrat Rhyddfrydol Danny Alexander. Ie, Albanwr arall. Eisioes yn Holyrood mae mab Winnie Ewing, Fergus yn dal rhan helaeth o etholaeth Danny Alexander dros y SNP. A fyddai am i’w etholwyr gredu bod yr Alban wedi ei anfanteisio’n gyllidol o dan ei oruchwiliaeth ef pan ddaw hi at yr Etholiad Cyffredinol nesaf? Anhebygol iawn ac felly mae gan Jane Hutt a Llywodraeth Cymru tipyn o dasg ar eu dwylo.

Yn yr un modd honodd Holtham na fyddai sefyllfa o ddatganoli “i’r eithaf” yn yr Alban yn fuddiol i Gymru y chwaith a fyddai’n arwain at yr holl drethi a godir yno yn aros o fewn tiriogaeth yr Alban, ac all hyn fod yn hynod niweidiol i Gymru sydd â sylfaen drethi bach. Arweiniodd hyn i gyd at Daran Hill, Prif Weithredwr Positif Politics ar ddiwedd sesiwn y Sefydliad Bevan i ddatgan mae o bosib ymgyrchu ochr yn ochr gydag Alex Salmond a’r SNP er mwyn sicrhau buddugoliaeth iddynt mewn refferendwm ar annibyniaeth fyddai’r modd orau i warchod buddiannau Cymru. Yn ei dyb ef, byddai hyn yn cael gwared â’r ‘eliffant mewn cilt’ sy’n rhywstro unrhyw ymgais ar hyn o bryd o ddiwygio’r fformiwla Barnett. Nid oes cadarnhad bod tocyn tren Jane Hutt i Gaeredin wedi ei bwcio ar hyn o bryd ac yn y cyfamser bydd rhaid iddi barhau i negodi gyda’r Albanwr yn San Steffan.

http://www.positifpolitics.co.uk/