Mae’r Aelod Seneddol Llafur a chyn-chwip y blaid, Fiona Onasanya, wedi’i chael yn euog o ddweud celwydd wrth yr heddlu.
Roedd y gyfreithwraig 35 oed wedi cynllwynio gyda’i brawd Festus, ar ôl i’w char gael ei stopio tra roedd hi’n gyrru ar gyflymdra o 41 milltir yr awr mewn parth 30 milltir yr awr.
Fe ddigwyddodd ym mhentref Thorney ger Peterborough.
Cafwyd hi’n euog o un cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn yr Old Bailey.
Mae ei brawd wedi cyfaddef iddo wyrdroi cwrs cyfiawnder dair gwaith.