Mae’n bosib bod rhai o gefnogwyr Mark Drakeford wedi troi at Eluned Morgan yn ystod ras arweinyddiaeth Llafur, gan wanhau ei ganlyniad yn y pen draw.

Dyna un o gasgliadau Daran Hill, Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Ymgynghorwr cwmni Materion Cyhoeddus Positif Politics.

Enillodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, y bleidlais yn ail rownd y pleidleisio gyda 53.9%, gyda’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, yn ail â 41.4%.

Yn rownd gyntaf y pleidleisio derbyniodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, 22.3% o’r bleidlais ac enillodd Mark Drakeford 46.9%.

Methodd ag ennill dros 50% o’r bleidlais ar y rownd gyntaf – y trothwy sydd angen ei groesi er mwyn ennill y bleidlais yn llwyr – ac mae Daran Hill yn credu mai Eluned Morgan sy’n gyfrifol am hynny.

“Gan fod Mark wedi cael cymaint o enwebiadau gan aelodau tu fewn i grŵp Llafur, roedd hynny’n creu’r argraff ei fod yn mynd i fod yn fuddugoliaeth ysgubol iddo,” meddai wrth golwg360.

“Mewn realiti, hyd yn oed adeg hynny, roedd tîm Vaughan yn credu bod o leiaf 30% gyda nhw ar y pryd.

“Felly beth ddigwyddodd, tra bod yr ymgyrch yn parhau, yw bod Eluned wedi cymryd chunk o bleidleisiau Mark yn hytrach na phleidleisiau Vaughan.

“Felly roedd Mark jest dan 50%. Ond, ar ddiwedd y dydd, roedd Carwyn -pan gafodd e ei ethol – jest dros 50%. Dyw’r gwahaniaeth y tro yma ddim mor fawr â hynny.

Eluned

Er i Eluned Morgan ddod yn olaf yn y rownd gyntaf – cafodd ei phleidleisiau eu trosglwyddo i’r ddau arall yn yr ail rownd – mae Daran Hill yn canmol ei chanlyniad.

“Roedd e’n siŵr o fod yn siomedig i ryw raddau,” meddai. “Ond i fod yn onest, roedd ei hymgyrch hi wedi cael ei sefydlu ai rhedeg dros gwpwl o fisoedd.

“Tra’r oedd ymgyrchoedd y ddau arall wedi cael eu cynllunio dros flynyddoedd. Roedd lot llai o arian, a gweithwyr gydag Eluned.

“Dw i’n credu bod ei chanlyniad yn ddigon parchus o feddwl bod cyn lleied o adnoddau ganddi.

Vaughan

Yn ystod rownd gyntaf y bleidlais mi enillodd Vaughan Gething bron i draean o’r bleidlais (30.8%), ond dyw hynny ddim yn destun dathlu i’r Ysgrifennydd yn ôl Daran Hill.

“Roedd y canlyniad yn oce i Vaughan,” meddai. “Petasai fe wedi dod yn drydydd, mi fyddai hynny wedi bod yn broblem iddo.

“Ond dros gyfnod yr etholiad, dw i ddim yn credu gwnaeth ei ymgyrch [brofi unrhyw gynnydd]. Dw i’n credu yr oedd ganddo ryw 30% dros yr haf, a rhyw 30% ddoe.

“Doedd e ddim wedi gwella ei statws yn ystod yr ymgyrch. Doedd dim lot o symudiad o gwbl. Roeddech chi naill ai yn cefnogi Vaughan, neu ddim yn ei gefnogi o gwbl.

Cabinet?

Wrth edrych at y dyfodol mae Daran Hill yn ystyried y cabinet y bydd yn rhaid i Mark Darkeford ei ffurfio, ac mae’n rhagweld “problem” a allai godi.

“Mae’n swnio’n debygol bod [y cyn-weinidog] Jane Hutt yn dod yn ôl,” meddai. “Dw i’n credu bod hynna yn creu problem mewn ffordd.

“Achos os ydy e wir moyn dangos bod y llywodraeth wedi cael chwa o awyr iach, dyw dod â chyn-weinidogion yn ôl ddim yn creu’r argraff hynny.

“Mae’n ddigon posib mai siâp a strwythur y Llywodraeth yw’r peth pwysicaf.

“Dw i’n credu y bydd unrhyw newidiadau o ran siâp y portffolios gwahanol yr un mor bwysig â phwy bynnag mae’n rhoi mewn.”