Mae actor o Gymru wedi dweud mai ei awydd i ymgyrchu yn erbyn Brexit oedd un o’r rhesymau pennaf pam y daeth ei berthynas â chomedïwraig o’r Unol Daleithiau i ben.

Bu Michael Sheen a Sarah Silverman yn cyd-fyw yn Los Angeles am gyfnod o bedair blynedd, cyn i’r ddau benderfynu gwahanu y llynedd.

Yn ôl yr actor a’r ymgyrchydd o Bort Talbot, bu’r refferendwm ar Brexit ac ethol Donald Trump yn Arlywydd yn 2016 yn allweddol mewn diweddu’r berthynas.

Mae Sarah Silverman yn enwog am fod yn gomedïwraig, actores a chynhyrchydd sy’n llafar ei barn o blaid y Democratiaid.

“Cyfrifoldeb”

“Ar ôl y bleidlais ar Brexit, a’r etholiad lle daeth Trump yn Arlywydd, roedd y ddau ohonom ni’n teimlo’n wahanol ac eisiau gael fod yn rhan o bethau yn fwy,” meddai Michael Sheen wrth The Daily Telegraph.

“Fe wnaeth hynny adael iddi wneud ei rhaglen, I Love You America, ac fe arweiniodd i mi ganolbwyntio ar y materion a ysgogodd pobol i bleidleisio y ffordd y gwnaethon nhw gyda Brexit.

“Roeddwn i’n teimlo cyfrifoldeb i wneud rhywbeth, ond roedd hynny’n golygu dychwelyd [i wledydd Prydain] – a oedd yn anodd i’r ddau ohonom, oherwydd roeddem yn bwysig i’n gilydd.

“Ond mae’r ddau’r ohonom yn cydnabod mai dyna oedd angen i ni ei wneud.”