Mae heddlu Sbaen wedi arestio dyn y maen nhw’n credu oedd yn bwriadu ymosod ar brif weinidog y wlad, Pedro Sanchez, oherwydd ei benderfyniad dadleuol i godi gweddillion y cyn-unben, Francisco Franco.

Fe gafodd y dyn 63 oed ei arestio yn nhref Terrassa yn ardal Catalwnia ar Fedi 19, ar ddiwedd ymchwiliad byr. Mae’n dal yn y ddalfa, heb ei gyhuddo’n ffurfiol.

Fe ddaeth yr achos i sylw’r cyhoedd heddiw (dydd Iau, Tachwedd 8) wedi i bapur newydd Publico gario’r stori.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i 16 o arfau yng nghartref y dyn, a’r rheiny’n amrywio o gynnau llaw i reiffls.