Mae cynhadledd i’w chynnal yng Nghanolfan Owain Glyndŵr  o’r enw ‘Pontio dros Brexit’, fydd yn cynnwys seminarau yn trafod “hybu a normaleiddio ieithoedd bychain”.

Bwriad y trefnwyr – Cymdogion Celtaidd a Menter Maldwyn – yw cynnal trafodaethau i geisio sicrhau dyfodol i gysylltiadau diwylliannol rhwng y gwledydd bychain yn wyneb Brexit.

Bydd cyflwyniadau gan Dermot McLaughlin o Creative Strategic Solutions, Gwilym Bowen Rhys o TOSTA BANDA (Orcestra cymysg efo cerddorion o Gymru, Galicia, Alban, Cernyw, Basg, Frisia, a Werddon), Naomi Heath a Meic Llewelyn o Gymdogion Celtaidd, Micheál O’Fearraigh o Ealain na Gaeltachta, a Nick Capaldi o Gyngor y Celfyddydau.

Cadeirydd y gynhadledd sy’n digwydd fis nesaf yw Glyn Jones, Oriel Plas Glyn y Weddw, a Nia Llywelyn o Fenter Maldwyn sy’n hwyluso.