Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, David Mundell wedi dweud ei fod yn barod i “amddiffyn y Deyrnas Unedig hyd fy anadl olaf”.

Daw ei sylwadau ar ôl iddo gyhuddo’r SNP o fod eisiau hollti’r undeb tros Brexit.

Yn ystod Sesiwn Cwestiynau’r Alban yn Nhŷ’r Cyffredin, cafodd David Mundell ei gyhuddo gan yr Aelod Seneddol Patrick Grady o “lywyddu dros ymgais i gipio grym”, gan ychwanegu nad yw’r Ceidwadwyr “erioed wedi eisiau i Senedd yr Alban lwyddo” a’u bod yn “defnyddio Brexit i’w thanseilio”.

Wrth ymateb i gyhuddiadau aelod seneddol yr SNP, meddai David Mundell, “Mae e a’i gydweithwyr am hollti’r Deyrnas Unedig.”