Mae menter cymdeithasol wedi cymryd cyfrifoldeb am lyfrgell yn Nyffryn Ogwen, wedi cyfnod o amau y gallai Cyngor Gwynedd gau y lle.

Yn dilyn blwyddyn o drafod, mae Partneriaeth Ogwen, mewn cydweithrediad â thri chyngor cymuned lleol, wedi arwyddo prydles tair blynedd ar yr adeilad yn Bethesda.

O dan y trefniant newydd, bydd Cyngor Gwynedd yn parhau i redeg y gwasanaeth llyfrgell, tra bo Partneriaeth Ogwen yn gyfrifol am gynnal a chadw’r adeilad.

Yn ôl Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen, mae’r prosiect diweddaraf hwn yn dangos bod yna “botensial i fudiadau cymunedol gymryd asedau ymlaen.”

“Mae hwn yn bartneriaeth gymunedol wirioneddol, gyda ni fel menter cymdeithasol a’r cynghorau cymuned hefyd yn helpu i sicrhau bod y gwasanaeth llyfrgell yn parhau yn y dyffryn,” meddai wrth golwg360.

“Tipyn o ddiddordeb”

Er mwyn sicrhau incwm ar gyfer cynnal a chadw’r adeilad, mae’r menter yn awyddus i logi rhai o ystafelloedd y llyfrgell ar gyfer y gymuned.

Mae un ystafell eisoes yn cael ei llogi gan fusnes lleol sydd wedi sefydlu swyddfa yno, ac mae’r ystafell gymunedol wedyn wedi denu “tipyn o ddiddordeb” yn barod, meddai Meleri Davies.

“Mae’r clwb camera am gynnal sesiynau bob wythnos, ac mae yna gyfarfodydd a gyrfaoedd chwist wedi’u cynnal yna,” meddai. 

“Mae hyn i gyd ers i ni arwyddo’r brydles tua mis yn ôl, felly mae’n amlwg bod yna dipyn o ddiddordeb a gobeithio y gallwn ni wneud joban dda ohoni.”

Partneriaeth Ogwen

Cafodd Partneriaeth Ogwen ei sefydlu bedair blynedd yn ôl, ac maen nhw eisoes yn gyfrifol am sawl prosiect o fewn ardal Dyffryn Ogwen.

Ymhlith y prosiectau hynny mae’r cynllun hydro cymunedol, Ynni Ogwen, ynghyd â siop grefftau a chanolfan gymunedol sydd wedi’u lleoli ar stryd Bethesda.

Mae Partneriaeth Ogwen hefyd yn y broses o brynu adeilad arall yn y pentref a fydd yn ganolbwynt i brosiectau amgylcheddol.