Perthynas dda gyda’i etholwyr oedd cyfrinach Denzil Davies wrth iddo ddal ei afael yn sedd Llanelli am 35 blynedd.

Dyna farn yr Arglwydd John Morris, hoelen wyth y Blaid Lafur yng Nghymru a fu ei hun yn Aelod Seneddol ar Aberafan am 41 blynedd a hanner yn ddi-dor.

Mae’r Arglwydd yn galw’r diweddar Aelod Seneddol Llafur yn “fachgen Sir Gâr yn hollol”, ac yn ei ganmol am lwyddo i gadw ar delerau da â phobol Llanelli.

“Rydych chi’n gorfod gweithio arno fe,” meddai am berthynas AS â’i etholwyr wrth golwg360. “Dyw e ddim yn disgyn fel afal o goeden. Mae’n rhaid i chi weithio arno fe. Mae’n rhaid i chi gadw cysylltiad agos â’r etholaeth.

“Er bod y mwyafrifoedd [o’ch plaid] yn enfawr, dyw’r gwaith ddim yn llai. A dw i’n siŵr bod Denzil wedi gwneud yr un peth [a finnau] ac wedi cadw ei barch.

“Roedd pawb yn meddwl yn uchel ohono fe.”

“Disglair iawn”

Roedd Denzil Davies yn ysgrifennydd preifat (parliamentary private secretary) i John Morris pan oedd yntau yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn yr 1970au.

A phan ddaeth swydd Gweinidog y Trysorlys yn wag, aeth John Morris ati i argymell enw ei gyd-Gymro am y rôl – cafodd Denzil Davies ei benodi yn fuan wedi hynny.

O edrych yn ôl ar yrfa ei gyn-ysgrifennydd preifat, mae John Morris yn cyfleu rhywfaint o dristwch am nad oedd e wedi esgyn yn uwch.

“Mi roedd e’n ysgrifennydd preifat disglair iawn,” meddai. “Roedd ei fysedd ar y delyn bob amser. Roedd e’n fachgen o allu mawr, ac yn anffodus wnaeth ei yrfa ddim datblygu.”