Roedd y diweddar Denzil Davies yn ddyn o “alluoedd mawr” gyda “golwg global” ar bethau, yn ôl hen gyfaill iddo.

Mae’r Arglwydd Elystan Morgan yn dweud y bu yntau â chyn-Aelod Seneddol Llanelli yn gyfeillion “agos” am ddegawdau, ac mae’n edrych yn ôl yn ffafriol ar eu gyrfaoedd yn y Blaid Lafur.

Mae’n dweud bod Denzil Davies wedi “ennill clod mawr i’w hun yn ysgolhaig” yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr yn Rhydychen, ac roedd y gallu yna yn amlwg trwy gydol ei yrfa’n wleidydd, meddai.

“Dw i’n cofio edmygu ei allu meddyliol ef. Roedd e’n ddyn o alluoedd mawr iawn,” meddai wrth golwg360. “Doedd dim amheuaeth am ei ddisgleirdeb ef.

“Roedd yn ddyn oedd yn amlwg gyda reserve o allu. Roeddech chi byth yn teimlo ei fod yn cyrraedd ei derfynau o gwbl.”

“Safonau uchel”

Yn ystod yr 1980au mi ymddiswyddodd Denzil Davies o gabinet cysgodol Neil Kinnock, arweinydd Llafur ar y pryd, fel protest yn erbyn y ffordd yr oedd y blaid yn cael ei harwain.

Er bod Elystan Morgan yn cydnabod bod Denzil Davies yn “gwisgo ei galon ar lawes ei got”, mae’n gwadu mai angerdd oedd yn tanio’r fath benderfyniadau.

Yn hytrach, roedd cyn-Aelod Seneddol Llanelli yn ddyn o “safonau uchel iawn”, meddai, ac mi oedd yn fodlon brwydro tros rheiny.

“Dim ond safonau o uchelder o berffeithrwydd oedd yn dderbyniol iddo ef,” meddai. “Fydden i ddim yn ei alw’n ddyn ffroen uchel o gwbl. Roedd yn ddyn o safonau arbennig.

“Ac yn tueddu barnu’r byd o’r safonau uchel hynny.”

Golwg global

Doedd Denzil Davies ddim yn cefnogi datganoli a sicrhau rhagor o bwerau i Gymru, ac mae Elystan Morgan yn cydnabod hynny.

Ym marn yr Arglwydd, mae’n ddigon posib mai ei ffocws ar wleidyddiaeth ryngwladol – nid gwleidyddiaeth lefel y genedl – oedd yn gyfrifol am hynny.

“Dw i methu dweud ei fod yn genedlaetholwr Cymreig yr un fath â rhai ohonom ni,” meddai. “Neu, os oedd e, roedd e wedi cadw ei genedlaetholdeb Cymreig ‘dan y blanced’ fel petai.

“Ond, golwg global ar bethau oedd ganddo fe. Golwg byd eang.”