Mae un o hoelion wyth Plaid Cymru yn disgwyl gweld newid trywydd gan Blaid Cymru gydag Adam Price wrth y llyw.

Yn ôl Cynog Dafis, cyn-Aelod Seneddol Ceredigion ac un o gefnogwyr mwyaf brwd Adam Price, gallwn ddisgwyl cryn newid i’r drefn dan yr arweinydd newydd.

“Dw i’n credu gallwn ddisgwyl trywydd newydd, ond trywydd sy’n unol â thraddodiad Plaid Cymru,” meddai wrth golwg360.

“Achos mae Adam wedi’u drwytho yn nhraddodiad gorau Plaid Cymru, a hefyd yn hanes Cymru. Hen hanes Cymru a hanes diweddar Cymru. Mae’n hynod o debyg mewn lawer ystyr, i Gwynfor [Evans].”

Mae’n ategu bod Adam Price yn “arweinydd o ddoniau gwleidyddol cwbl anghyffredin” a bod “unrhyw beth yn bosib” ag ef wrth y llyw.

Leanne Wood

Wrth edrych yn ôl ar gyfnod Leanne Wood yn arweinydd, mae Cynog Dafis yn canmol Aelod Cynulliad Rhondda am ei chyfraniad i’r blaid.

“Dw i’n edrych yn ôl ar gyfnod Leanne mewn termau positif. Mi gyflawnodd pethau pwysig yn nhermau newid delwedd Plaid Cymru,” meddai.

“Ac wrth gwrs, nid ar chwarae bach oedd llwyddo i ennill y Rhondda yn etholiad y Cynulliad. Felly mae cyfraniad Leanne wedi bod yn gadarnhaol iawn.

“Ond roedd angen newid. Roedd angen hwb newydd, a chyfeiriad newydd.”