Fe fyddai Brexit heb fargen yn “hollol ddinistriol” i ffermwyr yng Nghymru, yn ôl undeb ffermwyr.

Daw’r sylw wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi 77 o ‘hysbysiadau technegol’, sef cyngor i fusnesau ynglŷn â sut i baratoi am yr ymadawiad.

Mae’r rhain yn awgrymu y byddai yna gyfnod chwe mis o hyd wedi Brexit, lle na fyddai modd allforio anifeiliaid, neu gynnyrch anifeiliaid, i’r Undeb Ewropeaidd.

 thraean o wŷn Cymru yn diweddu fyny yn yr Undeb Ewropeaidd, mae un o gadeiryddion NFU Cymru wedi erfyn ar bobol sydd o blaid Brexit caled i “feddwl eto”.

“Dinistriol

“Rydym ni’n deall yn iawn fod angen cynlluniau wrth gefn,” meddai Wyn Evans. “Ond, mewn gwirionedd dylwn fod yn ymdrechu i rwystro’r cynlluniau yma rhag dwyn ffrwyth.

“Byddai’r goblygiadau yn hollol ddinistriol i ffermio yng Nghymru, ein cadwyni cyflenwi, a’n cymunedau sydd yn ddibynnol ar fusnesau bwyd a ffermio.”