Bydd darlith goffa’n cael ei chynnal gan y Cynulliad er cof am gyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.

Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban, Bruce Adamson, fydd y traddodi’r ddarlith gyntaf hon ar Fedi 25, a’i fwriad yw cymharu’r cynnydd sydd wedi’i wneud ym maes hawliau dynol plant yng Nghymru a’r Alban ers datganoli.

Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei drefnu mewn cydweithrediad rhwng y Cynulliad ac Academi Morgan ym Mhrifysgol Abertawe, yn cael ei gadeirio gan yr Athro Mike Sullivan, Cyfarwyddwr Academi Morgan.

Bydd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, yn cynnig pleidlais o ddiolch i Bruce Adamson.

Cofio

“Rydym yn falch o gael cynnal y ddarlith goffa gyntaf yma yn y Senedd,” meddai Llywydd y Cynulliad, Elin Jones.

“Heb amheuaeth, bydd hanes yn cofio Rhodri fel un o’r mawrion ym mlynyddoedd cynnar datganoli ac mae’n hollol briodol bod y ddau sefydliad hyn, ein Cynulliad Cenedlaethol a Phrifysgol Abertawe, yn cydweithio fel hyn er cof amdano, gan eu bod ill dau yn golygu cymaint iddo.”