Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi cydymdeimlo ag ymgeisydd y Goruchaf Lys sy’n wynebu honiadau o ymosodiad rhyw hanesyddol.

Dydy Brett Kavanaugh “ddim yn ddyn sy’n haeddu hyn”, meddai mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Mawrth.

Serch hynny, mae’n dweud ei fod yn cefnogi cynnal adolygiad yn y Senedd.

Mae dynes yn honni i Brett Kavanaugh ymosod arni’n rhywiol pan oedden nhw yn yr ysgol uwchradd, ond mae e’n gwadu iddo wneud unrhyw beth o’i le.

Bydd y ddau yn rhoi tystiolaeth ddydd Llun nesaf (Medi 24).

Mae’r Democratiaid yn galw am ymchwiliad llawn gan yr FBI, ac nid adolygiad mewnol.