Mae unigolion sy’n gweithio yn y Cynulliad yn gyndyn i wneud cwynion yn erbyn Aelodau oherwydd diffyg hyder yn y system yno.

Dyma un o gasgliadau’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn adroddiad i’r drefn sydd mewn grym ar hyn o bryd – ‘Creu’r diwylliant cywir’.

Does dim un cwyn swyddogol wedi bod am ymddygiad amhriodol gan Aelod Cynulliad ers i’r Cynulliad gael ei sefydlu yn 1999.

Ond mae’r adroddiad yn awgrymu bod achosion wedi bod, a bod pobol wedi dewis peidio cwyno’n swyddogol oherwydd diffyg ffydd yn y system.

“Daeth yn amlwg yn ystod yr ymchwiliad y gallai diffyg cwynion o’r fath fod yn symptomatig o’r problemau yr ydym yn eu hwynebu,” meddai’r adroddiad.

“Clywsom fod pobol yn amharod i gwyno am resymau megis yr effaith bosibl ar ddilyniant gyrfa; pardduo enw da eu plaid wleidyddol; pryder ynghylch a fyddai’r gŵyn yn cael ei thrin yn briodol, a diffyg hyder yn y system i allu cyflawni newid.

“Dyma’r heriau moel sy’n ein hwynebu, ac rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â hwy.”

Aflonyddu ar-lein

Mae elusen, Chwarae Teg, wedi croesawu’r adroddiad, ond yn pryderu am aflonyddu ar-lein a’n galw am ganllawiau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol “cyn gynted â phosib”.

“Yn fwyfwy, mae cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio fel fforwm i aflonyddu, bwlio a cham-drin menywod, ac yn aml heb oblygiadau,” meddai Prif Weithredwr yr elusen, Cerys Furlong.

“Mae’n hanfodol ein bod yn datblygu amgylchedd sy’n caniatáu i fenywod gyfleu eu pryderon heb orfod ofni am gael eu targedu, cam-drin a’u haflonyddu.

“Mae ystyriaeth ofalus wrth sail yr adroddiad yma, ac mae’n cynnig syniad o’r llwybr gallwn ddilyn i wireddu hyn.”