Mae Paul Davies wedi cael ei ethol yn arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Mewn digwyddiad yn Ffos Las yn Sir Gaerfyrddin, fe ddaeth i’r amlwg mai’r Aelod Cynulliad dros etholaeth Preseli Penfro a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau gan aelodau’r blaid Geidwadol yng Nghymru.

Mae’n olynu Andrew RT Davies yn y swydd, a ymddiswyddodd o fod yn arweinydd.

Roedd Paul Davies, a gafodd ei benodi’n arweinydd dros dro yn dilyn yr ymddiswyddiad, yn wynebu her am yr arweinyddiaeth wrth Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru, Suzy Davies.