Parhau mae’r ansicrwydd tros bwy fydd yn olynu Simon Thomas yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

Fe ymddiswyddodd yr Aelod Cynulliad o’r swydd ac o’r blaid ddydd Mercher diwethaf.

Dan reolau’r Cynulliad, mae’r sedd wag wedi’i chynnig i’r unigolyn a oedd yn ail ar restr ranbarthol y blaid yn etholiad 2016, sef Helen Mary Jones.

Yr wythnos ddiwethaf, ar ei chyfrif Twitter,  roedd hi’n dweud bod yna “lawer o benderfyniadau mawr” i’w gwneud cyn derbyn neu wrthod. Mae Helen Mary Jones wedi gwrthod gwneud cyfweliad ar y mater heddiw.

Ond mae golwg360 yn deall y gallwn ddisgwyl cyhoeddiad naill ffordd neu’r llall fory (dydd Mercher, Awst 1).

Beth yw’r ystyriaethau?

Gan mai Helen Mary Jones yw’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Academi Morgan Prifysgol Abertawe, dydi hi ddim yn glir eto a ydi cyn-Aelod Cynulliad Llanelli ar gael i gymryd ei sedd ym Mae Caerdydd.

Fe fyddai’n rhaid iddi adael ar gyfnod sabothol o ddwy flynedd a hanner – y cyfnod sy’n weddill tan Etholiad Cynulliad 2021 – er mwyn medru olynu Simon Thomas.

Mae ansicrwydd ar hyn o bryd ynglŷn ag os y byddai hynny’n dderbyniol gan ei chyflogwyr.

A beth am Vicky Moller?

Y trydydd enw ar restr ranbarthol Plaid Cymru ar gyfer Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn etholiad 2016, oedd Vicky Moller.

Pe bai Helen Mary Jones yn gwrthod y cynnig i gymryd ei lle ym Mae Caerdydd, mi fyddai sedd Simon Thomas yn cael ei chynnig i’r enw nesaf, sef Vicky Moller.

Tra’i bod hi’n llawer llai adnabyddus na Helen Mary Jones, mae golwg360 yn deall ei bod mewn sefyllfa i gymryd y sedd ac yn awyddus iawn i wneud hynny.

Beth ddigwyddodd i Simon Thomas?

Ar fore dydd Mercher yr wythnos ddiwethaf (Gorffennaf 25) fe gyhoeddodd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod Simon Thomas wedi ymddiswyddo o’i swydd yn Aelod Cynulliad.

Daeth cadarnhad wedi hynny gan Blaid Cymru ei fod wedi gadael y blaid a bod ymchwiliad heddlu i “honiadau o drosedd ddifrifol”.

Yna yn sgil cais gan golwg360, datgelodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi arestio unigolyn o Aberystwyth ar amheuaeth o fod â “delweddau anweddus” yn ei feddiant.

Mae’r unigolyn hwnnw bellach wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth am 28 diwrnod. Dyw hi ddim yn glir pryd y cafodd ei arestio.