Mae disgwyl i Theresa May yn rhannu’i gweledigaeth am y diwydiant amaethyddiaeth wedi Brexit, wrth ymweld â’r Sioe Fawr yn Llanelwedd heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 26).

Yn ystod ei hymweliad â maes Llanelwedd, bydd y Prif Weinidog yn ymrwymo i sefydlu sustem newydd i gymryd lle Polisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd (CAP).

Hon yw’r gyfundrefn sy’n darparu cymorthdaliadau i ffermwyr, ac yn ôl Theresa May bydd ei sustem newydd yn “symlach” a “llai biwrocrataidd”, ond yn dod ag amodau.

Dan y sustem yma, fe fyddai’n rhaid i ffermwyr blannu blodau gwylltion er mwyn rhoi hwb i fioamrywiaeth, a chyfrannu at wella ansawdd dŵr.

Yn achos Cymru, mae amaethyddiaeth yn fater sydd wedi’i  ddatganoli, ac mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori tros ddyfodol y cymorthdaliadau.

Brexit a llewyrch

“Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig cyfle unigryw i ni drawsnewid ein polisïau ar fwyd, ffermio a’r amgylchedd,” bydd Theresa May yn dweud yn ddiweddarach.

“Byddai hynny’n galluogi ni i ddatblygu diwydiant amaethyddiaeth iachus a llewyrchus, sydd yn barod am y dyfodol. A bydd yn helpu ni i ddiogelu’r amgylchedd.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae’r ffaith bod y Prif Weinidog yn rhannu ein hegwyddorion tros ddyfodol cefnogaeth amaeth – egwyddorion y gwnaethom eu hamlinellu bythefnos yn ôl – yn galonogol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360.

“Y peth gorau y gall y Prif Weinidog ei wneud i’n helpu … yw osgoi Brexit caled a gwireddu’r addewid a gwnaed yn ystod y refferendwm. Hynny yw, bod Cymru ddim yn colli ceiniog o gymorthdaliadau yn sgil ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd.”