Tri munud PAWB o Tomioka – tref “ddiogel” ond heb drigolion

Diweddarwyd  

Linda Rogers, Robat Idris a Meilyr Tomos o fudiad PAWB yn cyflwyno llofnodion yn erbyn Wylfa Newydd i swyddog yn llywodraeth Japan

Llun: PAWB

Tref sy’n gartref i waith prosesu gwastraff niwclear yw Tomioka yn Japan – o lle mae tri o aelodau’r grwp gwrth-niwclear, PAWB, yn anfon eu cerdyn post diweddaraf at ddarllenwyr golwg360.

Ers cael ei gwagio adeg trychineb Fukushima yn 2011, mae’r dref bellach wedi’i chyhoeddi’n ‘ddiogel’ gan yr awdurdodau… ond eto, does yno neb yn byw nac yn mynd o gwmpas eu pethau fel mewn dinasoedd eraill.

Yn y fideo tri munud a hanner hwn, mae Meilyr Tomos, Robat Idris a Linda Rogers yn cael eu tywys o gwmpas y dref gan bobol leol yn gwisgo masgiau.

Mae’r tri ymgyrchydd wedi teithio i Japan ar wahoddiad Cyfeillion y Ddaear y wlad, er mwyn dwyn perswad ar Hitachi i dynnu eu cefnogaeth yn ôl o brosiect Wylfa Newydd ym Môn.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed